
Afro Cluster with DJ support from The Infamous Len
Band o Gaerdydd yw Afro Cluster. Gyda’u gŵr blaen MC Skunkadelic maen nhw’n cyfuno seiniau a rhythmau gwirioneddol affro-ffync a hip-hop. Mae nhw wedi ychwanegu geiriau angerddol, gwleidyddol ar ben melodïau mentrus, campau acrobatig affro-beat i’r glust, harmonïau cyfoethog a rhythmau cymhleth. Yn 2016 fe dorron nhw i dir newydd wrth ymddangos ar Introducing Glastonbury ar y BBC ac yn Stiwdios y BBC yn Maida Vale.
Mae’r lein-yp diweddara wedi miniogi eu ffocws a’u penderfyniad i sefydlu eu hunain ar flaen y sîn hip-hop ym Mhrydain. Ymhlith eu gigs sylweddol diweddara mae perfformio gyda pencampwyr hip-hop Los Angeles People Under the Stairs, mawrion jazz Oregon a Band Pres Youngblood.
Dan ddylanwad Fela Kuti, Snarky Puppy, Ozomatli, The Roots & Talking Heads ymhlith eraill, bydd hon yn noson arall wych – a thrawiadol! – ar lawr y ddawns.
DJ Support to be announced!
Archebwch ar-lein i sicrhau mynediad os gwelwch yn dda
Supported by Night Out