Loading Digwyddiadau

« All Events

  • This event has passed.

Kōtuku and the Moon Child

Gorffennaf 6 @ 3:00 pm - 4:00 pm

Cyflwynir gan Birdlife Productions o Seland Newydd
Mae mygydau Basel, Pypedwaith a miwsig piano gwreiddiol hollol hyfryd yn adrodd stori am antur annisgwyl sy’n cludo Plentyn y Lleuad yn bell oddi cartref! Beth sy’n ei disgwyl mewn byd newydd rhyfedd – ac a wnaiff hi ddychwelyd i’r Lleuad fyth eto? Gan dynnu ar ysbrydoliaeth byd o chwedlau tylwyth teg ac arfordiroedd eu cartref yn Seland Newydd, mae Birdlife Productions wedi creu antur enfawr am golled, hiraeth a chyfeillgarwch annisgwyl, a hynny heb yngan yr UN gair!

Gan ddefnyddio cruglwyth o ddefnydd, gwrthrychau coll a dogn da o ryfeddod, mae’r antur gynnes hon yn croesi ffiniau iaith a diwylliant, lle mae straeon yn cael eu hadrodd heb eiriau ond trwy ddelweddau gweledol a grym cerddoriaeth. I bawb o 5-95 oed!

£10 oedolyn | £5 plentyn dan 16 | £25 grŵp o 2 oedolyn a 2 blentyn

Manylion

Dyddiad:
Gorffennaf 6
Amser:
3:00 pm - 4:00 pm
Digwyddiad Categori:

Lleoliad

Theatr Byd Bychan
Bath House Road
Aberteifi, Ceredigion SA43 1JY United Kingdom
+ Google Map
Ffôn:
01239 615952

Booking Online / Archebu Ar-lein
Terms and Conditions / Termau ac Amodau

We strongly suggest you book ahead. You can book your entrance tickets online at anytime up ‘til 3pm on the day of the event provided that we haven’t reached our capacity.

Awgrymwn yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw. Gallwch archebu tocynnau mynediad ar-lein unrhyw bryd hyd at 3.00 yp ar ddiwrnod y digwyddiad, os nad ydym eisoes wedi gwerthu’r cyfan.

Please bring a print out of your booking sent to you by Pay Pal to present to the door staff on the night. Tickets are non-refundable except when an event is cancelled due to circumstances beyond our control, in which case Small World will refund you. Our phone number for enquiries is 01239 615 952.

A fyddech cystal â dod â chopi print o’ch archeb, a ddanfonwyd i chi wrth PayPal, i’w gyflwyno i’r staff ar y drws ar y noson. Ni roddir ad-daliad am docyn, heblaw pan fydd rhaid canslo digwyddiad am resymau tu hwnt i’n rheolaeth, ac wedyn fe fydd Theatr Byd Bychan yn eich ad-dalu. Ein rhif ffôn ar gyfer ymholiadau yw 01239 615952.

Booking ahead at the Box Office
Archebu ymlaen llaw yn y Swyddfa Docynnau

Alternatively you can book tickets in person by visiting our office Tuesday – Friday, 9.30am – 4.30pm. Please pay by cash/ cheque and you will be issued with tickets to take away.

Neu gallwch ddewis archebu tocynnau trwy ddod i’n swyddfa docynnau o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, 9.30yb – 4.30yh.