
Ail ddigwyddiad TRANSIT yn cyflwyno Spaceheads, Rucksack Cinema a MWSTARD
Mae Spaceheads yn ddeuawd sy’n priodi seiniau technoleg. Maen nhw’n cynhyrchu undod o jazz, ffync, dawns, electro ac indi i greu eu sain digymar eu hunain.
Mae Andy Diagram wedi chwarae trwmped drwy loopers ac effeithiau gwahanol gydag amrywiaeth o fandiau, o’r arwyr llachar indi pop ‘James’ i seiniau haniaethol tywyllach David Thomas gan Pére Ubu. Mae wedi mynd â sain y trwmped i galon cerddoriaeth amgen (yn ddiweddar gan wau sain ffôn symudol i drawsffurfio sain un trwmped yn sain mawr adran brês sgrin sinema!) Mae Richard Harrison yn defnyddio caniau tun, poteli, haenau o fetel a phâr o deganau moch bach gwichlyd i greu ei guriadau drwm anarferol a’i seiniau taro. Ochr yn ochr â’r profiad o wrando ar The Spaceheads mae Rucksack Cinema yn cymysgu delweddau fideo ar y pryd.