Disgrifiad
Diolch am ddewis bod yn GYFAILL i Theatr Byd Bychan. Wnaethon ni lansio ein cynllun Aelodaeth Flynyddol o’n CYFEILLION am ei fod yn beth hyfryd, cymdeithasol a chefnogol i fod yn rhan ohono!
Fel CYFAILL cewch fanteisio ar y canlynol:
*mynediad am ddim i un digwyddiad Theatr Byd Bychan bob blwyddyn
*gwahoddiad i ddigwyddiadau arbennig y CYFEILLION
*Rhagolygon Preifat neu arddangosfeydd
Nid ydym yn derbyn cefnogaeth ariannol i redeg ein canolfan, ac ry’n ni’n gweithio’n ddiflino i gyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau a gweithdai fydd yn difyrru, ysbrydoli ac addysgu. Yn ystod y flwyddyn ry’n ni’n llwyddo i godi digon o arian i dalu’r biliau a chefnogi’r gwaith hwn, ond mae arnom angen rhagor er mwyn rhoi sail cynaliadwy i ddyfodol yr adeilad.
Fe fydd eich aelodaeth yn helpu cefnogi y gweithdai cymunedol, teuluol a rhwng-genhedlaeth sy’n cael eu cynnal gennym gydol y flwyddyn. Gallwch ymfalchïo hefyd yn eich cefnogaeth i ddigwyddiadau gwych ac arbennig o ddifyr sy’n cael eu cynnwys ar ein rhaglen ar gyfer ein lleoliad hardd a chynaliadwy yn Aberteifi. Dyma’r digwyddiadau lle ry’n ni’n cyd-weithio gydag ymarferwyr theatr dawnus a thalentog, cerddorion, beirdd, chwedleuwyr, siwglwyr, gwneuthurwyr, siaradwyr, ymgyrchwyr ysbrydoledig, artistiaid ar ddechrau gyrfa, gwneuthurwyr ffilm ac arweinwyr gweithdai.
Mynediad am Ddim i un digwyddiad y flwyddyn:
Gallwch ddewis unrhyw un o’n nosweithiau thema Cabaret, digwyddiadau cerddoriaeth fyw, sioeau theatr a Nosweithiau Sgrin Agored. Nodwch os gwelwch yn dda nad yw aelodaeth o’r CYFEILLION yn rhoi mynediad i ddigwyddiadau a gynhelir gan 3ydd parti.
Ymunwch trwy glicio ar y botwm talu a phrynu eich aelodaeth unigol ar-lein. Bydd Theatr Byd Bychan yn danfon cerdyn a rhif aelodaeth atoch yn y post. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’ch enw, cyfeiriad a chyfeiriad ebost yn gywir yn ystod y broses talu. Os yw’n well gyda chi, danfonwch siec atom, neu talwch gydag arian parod yn y Swyddfa Docynnau, Mawrth – Gwener, 9.30yb – 4.30yp.
Defnyddio’ch tocyn AM DDIM:
Mae angen i GYFEILLION ffonio’r Swyddfa Docynnau i archebu eu tocynnau am ddim 01239 615952, Mawrth – Gwener, 9.30yb – 4.30yp. Os y’ch chi’n dod â chwmni gyda chi, gallwch archebu eu tocyn ar-lein a gadael i ni wybod fel y gallwn drefnu eich seddau.
Sut i ddod o hyd i ddigwyddiadau CYFEILLION
Cadwch lygad ar agor am stamp y CYFEILLION yn ein llyfryn newydd i ddarganfod pa ddigwyddiadau sy’n cynnig mynediad am ddim, neu gwelwch ein rhestr digwyddiadau ar-lein am ddigwyddiadau sy’ wedi eu nodi’n ‘ddigwyddiad SWT’.
Diolch o galon, ry’n ni’n gwerthfawrogi’ch cefnogaeth yn fawr iawn, ac yn edrych ymlaen i’ch croesawu’n fuan.