Adeilad Eiconig
Mae Theatr Byd Bychan yn adeilad eiconig, sydd wedi ei gymeradwyo gan Gomisiwn Cynllunio Cymru fel cynllun ardderchog a adeiladwyd er budd yr amgylchedd.
“This is a distinctive public building which fulfils an ambitious brief to build ‘A Creative Space for a Creative Community’, with highly commendable sustainability credentials… a testament to the dedication of the team who have achieved a very special project for the community of Cardigan.” Gomisiwn Cynllunio Cymru
Gan weithio gyda phensaer lleol, Olly Llewelyn, fe adeiladon ni y safle gan ddefnyddio deunyddiau o ffynonellau adnewyddadwy neu ail-gylchol. Fe ddefnyddion ni lafur lleol, gan wneud y defnydd lleia’ posib o ddeunyddiau dwys o ran ynni, ac fe osodwyd i mewn wasanaethau sy’n cael eu gyrru gan ffynonellau adnewyddadwy.
Mae’r gwaith yn parhau, ac ry’n ni’n chwilio am ffyrdd i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant y ganolfan o hyd.
Dyma rai o’r nodweddion sydd wedi eu cynnwys:
- Lefelau uchel o olau naturiol ac awyr iach
- Canran uchel o insiwleiddio’r adeilad yn dod o gynnyrch defnydd a ail-gylchwyd (papur newyddion sych wedi ei ailgylchu)
- System cynhesu ac oeri gofod sy’n defnyddio pwmp ffynhonnell gwres aer i gynhesu dan y llawr ar ddwy lefel, gan gynhyrchu hyd at 3.5 gwaith mwy o wres allan nag ynni i mewn.
- Paneli Foltaig Solar sy’n darparu ychydig o dan 4 cilowat o drydan
- Uned Thermal Solar sy’n darparu’r dŵr poeth i gyd a thŷ bach dau sgwd
- Defnyddio coed lleol yn strwythur yr adeiladwaith – daw prif drawstiau’r strwythur o goedwig sy’n cael ei rheoli.
- Ail-ddefnydd o frics Aberteifi yn y cyntedd. Taniwyd y briciau tua canrif yn ôl, ychydig lathenni i ffwrdd, o glai a gloddiwyd ar y safle.
- Ychydig iawn o ddur yn y strwythur
- Blaen yr adeilad o bren, gyda rendro clai/calch ar ddellt helygen a phaent calch
- Sedum yn gorchuddio’r to, sy’n arbed colli dŵr glaw ac yn cynyddu bioamrywiaeth
- Llafur o’r gymuned leol (gan gynnwys criw o wirfoddolwyr triw) yn cadw’r arian o fewn yr economi leol.
- Gwaith Sylfaen Torri a Llenwi er mwyn osgoi cludo gwastraff
- Croniant ynni haul anferthol o’r atrium
- Ffenestri gwydro dwbwl, yn llawn argon
- Safle tir brown
Teithiau
Ry’n ni’n trefnu teithiau o amgylch y safle. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth ac i drafod eich anghenion. Cysylltwch â Bill bill@smallworld.org.uk