
Rydym ni oll yn dangos wynebau gwahanol i’r byd, ond mae rhai yn fwy gwahanol na’r rhan fwyaf. Yn y sioe un dyn doniol a hynod drawiadol yn weledol, mae Shane Shambhu yn datgelu’r bywyd cyfrinachol y bu’n cadw rhag ei ffrindiau, wrth dyfu i fyny yn nwyrain Llundain gosmopolitan.
Dilynwch weddnewidiad Shane o “grwt tew” i fod yn berfformiwr rhyngwladol, wrth iddo chwalu syniadau am hil, iaith a diwylliant yn y cyfuniad disglair hwn o theatr, dawns a ffilm.
Nid stori Bollywood “garba i gyfoeth” mo hon, dyma’r peth go iawn. Cyffesion Dawnsiwr Teml Cocni a ddatblygwyd yn wreiddiol gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
alteredskin.org Twitter: @AlteredSkin