
Ry’n ni’n byw mewn byd rhanedig, ac ry’n ni am groesi’r rhaniad hwnnw. Ond sut allwn ni fod yn boblogaidd, nawr bod y gair ‘poblyddwr’ yn golygu ‘Dwi’n gachwr’? Ateb: RY’N NI’N CARU PAWB. O – heblaw am y bastards. Ma’ pawb yn casáu’r bastards, iawn? Cytuno.
Mae’r comediwyr-actifyddion-cerddorion a enwebwyd* droeon, Jonny and the Baptists, wedi cael llond bol ar fod yn wleidyddol a rhwygol. Mae’r sioe yma am sut mae popeth yn bendant yn iawn. Gadewch i ni gyd ddod mla’n!
*Ni wedi colli bum gwaith ac heb ennill erioed.