
Golwg ysgafn o waelod calon ar gariad, colled a hir oes gan Lost Dog
Cwmni dawns gwobrwyol yw Lost Dog, o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig/ Perfformiwr Ben Duke. Mae sioe newydd Lost Dog yn adrodd stori go iawn Romeo a Juliet. Mae’n debyg nad marw trwy gamgymeriad trasig wnaethon nhw, ond tyfu lan a byw’n hapus byth wedyn. Wel, fe fuon nhw fyw o leia’.
Nawr maen nhw o gwmpas eu 40au ac mae o leia’ un ohonyn nhw yn sownd yn nannedd creisys canol oed; maen nhw’n teimlo bod dyddiau eu hieuenctid yn eu gwawdio ac mae’r pwysau o gynnal y ddelwedd o fod y pâr perffaith mewn cariad rhamantus yn gwasgu. Maen nhw wedi penderfynu wynebu eu trafferthion trwy greu sioe – amdanyn nhw eu hunain. Fe ddywedodd eu therapydd ei fod yn syniad gwael.
Gyda chyfuniad Lost Dog o ddawns, theatr a chomedi mae’r ddeuawd yma dan gyfarwyddyd Ben Duke, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Olivier, yn mynd i’r afael â’n obsesiwn diwylliannol am fod yn ifanc a’n gofidiau anorfod am heneiddio.
★★★★★ Pure pleasure. Smart, subversive and sexy. The Guardian
★★★★★ Superb. Devastating realism and dark humour. The Stage
★★★★ Insightful, funny and rich. Smoulders with equal parts lust and loathing. Time Out
★★★★ Squirmingly funny and no less heartbreaking. The Times
★★★★ Glorious. Full of warmth and intimacy. The Independent
★★★★ Wonderful. Shakespeare’s lovers live on. The Observer
Addas i gynulleidfa hŷn 14+
75 munud