
Ry’n ni’n eich croesawu i un o’n gweithdai gwneud llusernau rhad ac am ddim yn Theatr Byd Bychan, Aberteifi, ar ddyddiau Sul Hydref 16eg, Tachwedd 13eg a Tachwedd 20ed. Wrth greu llusern byddwch yn helpu goleuo’r dref greadigol hon.
Mae’r gweithdai gwneud llusernau yn rhan o brosiect newydd o’r enw Aberteifi Creadigol, sy’n lansio Pythefnos Gŵyl ym mis Rhagfyr.
Ry’n ni’n gobeithio y caiff pawb gyfle i wneud llusern fel y gallan nhw ymuno mewn parêd drwy’r strydoedd a bod yn rhan o sioe fin nos ryfeddol ar nos Wener Rhagfyr 9 o 7yh – 8yh.
Y noson honno bydd siopau niferus Aberteifi yn agored ar gyfer siopa hwyr. Bydd Theatr Byd Bychan yn arwain y parêd o Pendre Art i Gei Tywysog Siarl lle bydd arddangosfa wych o dân gwyllt am 8yh.
Bydd y gweithdai yn hwyl ac yn greadigol. Da chi, anogwch eich ffrindiau a theulu i wneud llusernau a dod i’r digwyddiad ardderchog hwn.
Mae thema’r parêd yn ymwneud â’r Eisteddfod gyntaf, ond fe fydd tipyn o ysbrydoliaeth o gyfeiriad addurniadau tymhorol. Dychmygwch delynau a sêr ochr yn ochr â chlychau a beirdd! Bydd yna rai llusernau enfawr iawn yn rhan o’r cyfan a bydd rhain yn cael eu harddangos yn y dre ar ôl y parêd. Byddwch yn cael mynd â’ch llusern gartre gyda chi ar ôl y parêd mewn pryd i’r Nadolig.
Mae’r llusernau yn cael eu gwneud o bapur tusw a glud PVA, felly dewch i’r gweithdy mewn hen ddillad (bydd rhai bratiau ar gael hefyd).
Fe hoffem i chi archebu lle ymlaen llaw, fel ein bod yn gwybod faint o staff fydd eu hangen i roi help. Cysylltwch â ni ar 01239 615952 a siaradwch gyda aelod o Theatr Byd Bychan. Ein horiau agor yw dyddiau Mawrth – Gwener, 9.30yb – 4.30yp.
Gweld chi cyn bo hir!
Addas i bob oed a gallu.
Mynediad am ddim.
Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Cynnyrch Twristiaeth Dyfeisgar Croeso Cymru, sy’n annog gweithio mewn partneriaeth ynghyd â datblygu syniadau dyfeisgar fydd yn gadael mwy o argraff a denu rhagor o ymwelwyr.