
Cyflwr o fod yn chwareus yw clownio sy’n ein cysylltu â’r profiad o fod yn blentyn, yn naïf a bregus. Yn baradocsaidd, ry’n ni’n tyfu, dysgu ac ymgryfhau trwy ail-gysylltu â’r hyn sydd yn ein gwneud yn fwyaf bregus. Nid techneg sydd wrth wraidd y dull yma o glownio (fel triciau, jôcs a rwtînau) ond taith bersonol tuag at ddarganfod ffordd unigryw’r unigolyn o fod yn glown, trwy wrando a bod yn agored – sydd yn sgiliau hanfodol ar gyfer pob math o fynegiant creadigol beth bynnag . Dim ond pan fyddwn yn gadael fynd o’n rheolaeth dros bethau y cawn ein synnu gan ddyfnder yr hyn sy’n cael ei ddatgelu i ni.
Dewch am benwythnos o adael fynd a theimlo’n rhydd. Grŵp o 12 yn unig.
ARCHEBWCH wyneb yn wyneb yn y Swyddfa Docynnau os gwelwch yn dda – Mawrth-Gwener 10yb-4.30yp. Diolch
£120 y person trwy arian neu siec. Ar agor i bobl 18+ oed.
nosetonose. info/ uk