
Ymunwch â pharêd llusernau mawreddog drwy strydoedd Aberteifi, a dewch i sioe wefreiddiol min nos sy’n diweddu gydag arddangosfa o dân gwyllt ar nos Wener Rhagfyr 9 o 7 – 8yh.
Gobeithio bydd pawb wedi cael cyfle i wneud llusern yn un o Weithdai Gwneud Llusernau Theatr Byd Bychan ym mis Hydref a Tachwedd. Os na, peidiwch poeni, ond dewch i ymuno gyda phawb ta beth. Bydd siopau niferus Aberteifi ar agor ar gyfer siopa hwyr. Bydd Theatr Byd Bychan yn arwain y parêd o Pendre Arts i Gei’r Tywysog Siarl lle bydd arddangosfa wefreiddiol o dân gwyllt am 8yh.
Bydd thema’r parêd yn ymwneud â’r Eisteddfod gyntaf. Bydd digon o ysbrydoliaeth o du addurniadau’r Nadolig hefyd. Dychmygwch gyfuniad o delynau a sêr gyda chlychau a beirdd…bydd yna rai llusernau anferthol ac os byddwch wedi gwneud eich llusern eich hunan, cewch fynd â hi gyda chi wedi’r parêd yn barod ar gyfer y Nadolig.
Byddwn yn cwrdd yn Theatr Byd Bychan am 6.15yh a bydd y parêd yn gadael am 7yh.
Cysylltwch â ni ar 01239 615 952 a siaradwch gydag aelod o Theatr Byd Bychan os am fwy o wybodaeth. Mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth – Gwener, 9.30yb – 4.30yh.
Addas i bob oed a gallu.
Mynediad am ddim.