
Mae’r Dappers yn fand cofiadwy 4 darn, sy’n creu sain unigryw i ddehongli Reggae Ska a Pync yn hwyliog. Maen nhw’n perfformio caneuon croch llawn hiwmor gyda rhyw damed o realaeth. Mae eu sain dawns heintus yn siŵr o gael y dorf mas i lawr y ddawns o ddechrau’r noson fawr hon.
Mae’r Chalk Outlines yn fand 8 darn bywiog sy’n chwarae dehongliad go dywyll o 2-tôn. Mae’r band yn gweu llinellau corn trwchus, samplau a dau lais dros guriad cyson yr adran rhythm i greu sain unigryw a chalonogol. Disgwyliwch alawon sy’n tynnu ar ddylanwadau Balkaidd, Lladin a Jyngl, yn ogystal â thraddodiad Ska a Reggae, fydd yn siŵr o gadw eich traed yn dyrnu llawr y ddawns. Ar ôl chwalu llwyfannau Cymru a Llundain, mae’r band yn anadlu bywyd i ganeuon sy’n esbonio pwy yw brenin y jyngl; sy’n rhoi cyngor amhrisiadwy i rai sy’n ystyried cynnal reiat; ac sy’n cyflwyno iâr anwes anystywallt.