
gyda DJ Mr A
Band Reggae Trojan/ Rocksteady/ Ska pum darn egnïol a meistrolgar yw The Erin Bardwell Collective, a sefydlwyd yn 2003. Os y’ch chi’n dwlu ar Ska, fyddwch chi ddim am golli’r perfformiad safon ucha’ yma. Pan fydd y band yn taro’r nodau cyntaf fydd ‘na neb o fewn clyw yn gallu dala nôl!
Roedd Erin, arweinydd y band, yn aelod o The Skanxters gynt. Am flynyddoedd fe ganolbwyntiodd y band ar eu deunydd eu hunain yn bennaf, wrth iddyn nhw deithio yn gwneud sioeau byw. Disgwyliwch glywed set wych o’u prosiect albwm stiwdio ‘The Great Western Reggae Soundclash 2017’, a hefyd rhai clasuron ska, gan gynnwys caneuon gan Desmond Dekker, Jimmy Cliff, Toots & The Maytals, The Pioneers a Dave a Ansell Collins.
Os y’ch chi’n caru cerddoriaeth fyw byddwch chi’n dwlu ar The Erin Bardwell Collective. Maen nhw’n wirioneddol heintus ac yn llysgenhadon dros Ska – gydag agwedd!