
Mae Harddwch a Direidi wrth galon Tinc y Tannau. Mae Ailsa Mair Hughes a Sianed Jones yn canu a chwarae y Fiola da Gamba bas ar yr un pryd. Eu hamgylchedd sy’n ysbrydoli eu canu, boed hwnnw yn rhaeadr, yn gapel o atseiniau neu’n ystafell llawn celf. Gyda’i gilydd maen nhw’n creu harmonïau pedwar rhan cyfoethog sy’n swnio’n gyfareddol ar yr hen offerynnau soniarus yma sy’n cael eu chwarae â bwa neu eu plycio fel gitâr. Maen nhw’n perfformio darnau byrfyfyr chwareus, caneuon gwreiddiol, eu dehongliadau eu hunain o ddarnau o’r 17eg ganrif a gosodiadau anarferol o hen farddoniaeth Gymraeg.
Mae Tinc y Tannau yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘GALW’ i gyd-fynd â’u taith yn Hydref 2018.
tincytannau.co.uk