Events

King Lagoon’s Flying Swordfish Dance Band

Mae sioe gerddoriaeth seicadelig Affro-Lladin y Flying Swordfish yn cynnwys gwisgoedd yn ogystal â’n Dewin Sawrus! Mae croeso i chi i gyd i

Barti brenhinol ynys drofannol…yn rhedeg drwy’r jyngl amryliw yn eich hoff drywsus aur.

Mae’r Flying Swordfish yn cyfuno rhythmau a melodïau Affrica a De America i greu arddull unigryw o gerddoriaeth ffresh, pwerus, egnïol tu hwnt a llawn hwyl. Dyma brofiad gŵyl sy’n datblygu’n wead llawn dop o sawrau, goleuadau, balwnau ‘sêr-ffrwydrol’ a chyfranogiad y gynulleidfa yn Mrwydr yr Edafedd Dwl a’r Fflamingo Syrffio’r Dorf. Disgwyliwch fynd ar eich pen i fyd ffantasïol pell trwy set egnïol iawn o gerddoriaeth, perarogleuon (olewau, ffrwythau chwilfriw a pherlysiau berwedig)

fel catapwlt seicadelig!

– Rodrigo

Doors open 7:30pm

flyingswordfish.co.uk 

 

TRANSIT

Daw TRANSIT nôl i ddathlu popeth sydd yn gysylltiedig ag agwedd pync DIY a mwy, gan ddod â seiniau sy’n eich denu i ddawnsio heb ddiffodd eich ymennydd. Noson (Ôl-) Pync a Ska fydd hi yn bennaf, ond bydd ambell i syndod annisgwyl yn cael ei daflu i’r gymysgedd, diolch i DJ Mr.A a Doris Dayglo.

Yn ymuno â’r parti yn fyw mae ‘Cut & Paste/Torri a Gludo’, sy’n cynnwys rhai o’r bobl a gyflwynodd MWSTARD i chi. Y tro yma, bydd y bas yn fwy ‘loopy’ a’r cit drymiau yn fwy ‘trashy’. Bydd tafluniadau yn seiliedig ar estheteg pync trwy ffoto-montage a defnydd o bin-ffelt gyda rhyw newid bach digidol hwnt ac yma, i gynnig cydbwysedd rhwng rhywbeth hypnotig ac ‘edgy’.

Drysau ar agor 7:30pm

Emma Lohan & Julian’s SKAafterparty

Reluctantly and with heavy hearts, we are canceling this event on 17/10. Emma and the band will be launching the new album in London and hoping to get to Cardigan another time. Thank you everyone who booked ahead and paid for their tickets (we will refund this week). Sadly sales aren’t what we are used to at this point and don’t come near to covering the band’s costs. It is unfair to ask Emma to take a big risk on potential door sales, so this is the unhappy result. We would like to thank Emma and all the artists who come far and put their faith in us.

Ymgartrefodd y gantores a chyfansoddwraig Emma Lohan yn Llundain ac mae’n gadael ei marc ar y sîn Werin ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae ei cherddoriaeth hynod o hardd wedi ei disgrifio fel ‘cyfarfyddiad rhwng gwerin-Iwerydd ag ethno-pop’.

Gyda band cefndir ysgubol o gyrn, llinynnau, synthau a harmonïau cyfoethog, mae arddull naturiol Emma yn ei pherfformiadau byw yn heintus. Mae’n llenwi’r llwyfan yn un gymysgedd o arabedd di-ofal a cherddgarwch. Gyda llais Dolores O’Riordan a dawn geiriau telynegol Leonard Cohen, fe enynnodd ei sengl ‘The 8th’ gefnogaeth gan grwpiau gweithredwyr ar hyd a lled y DU a’r Iwerddon.

Wrth brofi ei halbym newydd ‘Black Atlantic’ cewch eich cludo ar daith wib gerddorol sy’n anwesu’r gynulleidfa o’r dechrau cyntaf oll. Gyda’i ‘licks’ gitâr calonnog, harmonïau cyfoethog, geiriau gonest a threfniadau hyfryd, mae Lohan yn eich gwahodd i anghofio’ch gofalon a dawnsio.

Gyda Julian’s SKAfterparty yn chwarae set fyw, bydd digon i’ch cadw mas ar lawr y ddawns!

drysau ar agor 7:30pm

emmalohan.com

Yamäya gyda chefnogaeth DJ Miss Mitten

Dewch i bartïa i guriad cerrynt tanbaid Afrobeat byw a seiniau reggae/dyb y Nadolig hwn!
Mae YAMÄYA yn cynnwys y lleisydd pwerus o Senegal, Khadim Sarr, ac aelodau o fandiau sefydlog fel Lakuta, The Gentle Mystics a The Voodoo Love Orchestra. Gyda’i gilydd mae’r criw cydweithredol hwn o gerddorion o Brighton yn creu miwsig groove sydd wedi ei ysbrydoli gan ynni crai a phŵer y gwir affrobeat cynnar.
Mae YAMÄYA yn ehangu ar eu gwreiddiau yn Nigeria gan dynnu ar ddylanwadau o ehangder mawr cyfandir Affrica, o Baye Fall a Griots yn y gorllewin i Ethiopiques yn y dwyrain. Mae’r band hwn yn ceisio mowldio cerddoriaeth ar gyfer y dyfodol trwy gyfuno gwreiddiau Affricanaidd gydag arddulliau modern o dyb i hip hop, jazz a thu hwnt!

mayamitten.com
yamayamusic.com