Events

Move On Up

Croeso i ddewis crasboeth o ffync, canu’r enaid a mwy! Ymunwch â Mr. A am noson ffantastig arall wrth iddo chwarae mwy o’r Mawrion o’i gasgliad helaeth o 45s a 33s. Dim cymysgu, dim crafu, dim tros-ddybs, dim ond tiwniau gwych sy’n siŵr o’ch cael i symud a shiglo dros lawr y ddawns. Byddwch yn barod am gymysgedd eclectig o Ganu Enaid Detroit, Ffync New Orleans, Wah-wah’r West Coast, Shyffl Harlem a Disco Efrog Newydd.

King Lagoon’s Flying Swordfish Dance Band

Mae sioe gerddoriaeth seicadelig Affro-Lladin y Flying Swordfish yn cynnwys gwisgoedd yn ogystal â’n Dewin Sawrus! Mae croeso i chi i gyd i

Barti brenhinol ynys drofannol…yn rhedeg drwy’r jyngl amryliw yn eich hoff drywsus aur.

Mae’r Flying Swordfish yn cyfuno rhythmau a melodïau Affrica a De America i greu arddull unigryw o gerddoriaeth ffresh, pwerus, egnïol tu hwnt a llawn hwyl. Dyma brofiad gŵyl sy’n datblygu’n wead llawn dop o sawrau, goleuadau, balwnau ‘sêr-ffrwydrol’ a chyfranogiad y gynulleidfa yn Mrwydr yr Edafedd Dwl a’r Fflamingo Syrffio’r Dorf. Disgwyliwch fynd ar eich pen i fyd ffantasïol pell trwy set egnïol iawn o gerddoriaeth, perarogleuon (olewau, ffrwythau chwilfriw a pherlysiau berwedig)

fel catapwlt seicadelig!

– Rodrigo

Doors open 7:30pm

flyingswordfish.co.uk 

 

Move On Up

Croeso i ddewis crasboeth o ffync, canu’r enaid a mwy! Ymunwch â Mr. A am noson wych arall wrth iddo chwarae mwy o’r Mawrion o’i gasgliad enfawr o 45s a 33s. Dim cymysgu, dim crafu, dim tros-ddybs, dim ond tiwniau gwych sy’n siŵr o’ch cael i symud a shiglo dros lawr y ddawns. Byddwch yn barod am gymysgedd eclectig o Ganu Enaid Detroit, Ffync New Orleans, Wah-wah’r West Coast, Shyffl Harlem a Disco Efrog Newydd.

Trailer by Jake Whittaker

Pure Joy Conscious Dance Party

Mwyhewch noson o Biodanza, system o hunan-ddatblygiad sy’n defnyddio cerddoriaeth, symud a theimladau positif i ddyfnhau hunanymwybyddiaeth. Bydd DJ Shanna Mandira yn chwarae setiau eclectig o blethiad llon o gerddoriaeth byd. Mae parth ymlacio a chlustogau yn Nheml Cariad Shanna. Bydd y Cafe Bwyd Amrwd yn gwerthu danteithion blasus a smŵddis i gynnal eich ynni. Bydd Sally a Mike yn cyflwyno eu bath gong a sain enwog i ddiweddu’r nosweth. Dewch â’ch matiau ioga, blancedi a sbarcleri.

Tocynnau: £20 | £15 unwaged

ARCHEBU: Shanna 01994 419 304

Cabaret Gaeaf gyda The Vagaband

Croeso i’r cyntaf o Gabaret y Gaeaf, yng nghwmni’r Sinkoplaters, Beyond Compere, The Vagabond a gwesteion arbennig.

Archebwch nawr am noson o ddifyrrwch pur, cyri bendigedig a dawnsio, dan ofal Beyond Compere.

Band 8-person o Norfolk yw’r Vagaband. Maen nhw’n creu gwledd gerddorol o wsig gwlad, jazz, blues, ragtime, roca hyd yn oed gwerin Geltaidd. Ymhlitheu dewis anhygoel o offerynnau mae’r f dil, mandolin, gitâr pedal-ddur, clarinet, ugelhorn, banjo, squeezebocs a phiano. Cymysgedd grefftus iawn o gerddoriaeth wreiddiol yw eu perfformiad, lle mae eu aml-ddoniau’n plethu’n hyfryd gyda’u chwedleua a’r chwarae ar eiriau argraf adol gan Jose McGill, eu prif leisydd. Ymunwch â ni am ddawns ddifyr!


Pre-show supper

bar and food from 7pm

There will be a selection of curry dishes and choice of portion sizes starting at £7 per person. Please keep an eye on the website for menu details.

Planning ahead

  • It would be useful to know if you’re intending to eat before the show so we can cater for everyone. All dishes will be vegetarian, but you need to tell us before 7 November if you’re gluten free or have another dietary requirement.
  • We would like to seat you with the rest of your party.  Please call the Box Office and let us know who you’d like to sit with before 7 November.

This event is supported by Night Out

Print