Events

Dugout

A gyflwynir gan Adventure Travel Film Night 

Mae’r ffilm yn dilyn Benjamin Sadd (gwneuthurwr ffilm) a James Trundle (artist) wrth iddyn nhw deithio i Amazon yr Ecwador i adeiladu canŵ o ddim, yna fynd ar eu pen eu hunain drwy’r goedwig law. Mae’r daith yn adeiladu ar eu degawd o gyfeillgarwch mewn amgylchedd unig a heriol yn aml, gan roi prawf ar eu perthynas wrth iddyn nhw ymdrechu i ddelio gydag amodau a chymhlethdodau y materion sydd ynghlwm â’r rhan yma o Goedwig Law yr Amazon.