The Real Junk Food Project Cardigan
Swper am 6yh
JUST EAT IT Stori am wastraff bwyd
Dangosiad ffilm am 7.30yh
Mae Prosiect Bwyd Sbwriel Go Iawn Aberteifi yn eich gwahodd i swper a dangosiad o ffilm sy’n taflu goleuni ar wastraff bwyd. Ry’n ni’n dwlu ar fwyd. Ry’n ni’n awchu am raglenni coginio di-ri ar y teledu, am gylchgronau byd bwyd a blogiau bwyd a byta, felly pam ein bod yn taflu 50% o’n bwyd i’r sbwriel? Dewch â meddwl agored a boliau gwag. Darganfyddwch realiti gwastraff bwyd y byd, tra’n ceisio gweithio ynghyd i fod yn rhan o’r datrysiad.
Talwch yn ôl eich Teimlade (mynediad a swper)