Events

Move On Up

Croeso i ddewis crasboeth o ffync, canu’r enaid a mwy! Ymunwch â Mr. A am noson ffantastig arall wrth iddo chwarae mwy o’r Mawrion o’i gasgliad helaeth o 45s a 33s. Dim cymysgu, dim crafu, dim tros-ddybs, dim ond tiwniau gwych sy’n siŵr o’ch cael i symud a shiglo dros lawr y ddawns. Byddwch yn barod am gymysgedd eclectig o Ganu Enaid Detroit, Ffync New Orleans, Wah-wah’r West Coast, Shyffl Harlem a Disco Efrog Newydd.

Move On Up

Croeso i ddewis crasboeth o ffync, canu’r enaid a mwy! Ymunwch â Mr. A am noson wych arall wrth iddo chwarae mwy o’r Mawrion o’i gasgliad enfawr o 45s a 33s. Dim cymysgu, dim crafu, dim tros-ddybs, dim ond tiwniau gwych sy’n siŵr o’ch cael i symud a shiglo dros lawr y ddawns. Byddwch yn barod am gymysgedd eclectig o Ganu Enaid Detroit, Ffync New Orleans, Wah-wah’r West Coast, Shyffl Harlem a Disco Efrog Newydd.

Trailer by Jake Whittaker

Afro Cluster with DJ from The Infamous Len

Afro Cluster with DJ support from The Infamous Len

Band o Gaerdydd yw Afro Cluster. Gyda’u gŵr blaen MC Skunkadelic maen nhw’n cyfuno seiniau a rhythmau gwirioneddol affro-ffync a hip-hop. Mae nhw wedi ychwanegu geiriau angerddol, gwleidyddol ar ben melodïau mentrus, campau acrobatig affro-beat i’r glust, harmonïau cyfoethog a rhythmau cymhleth. Yn 2016 fe dorron nhw i dir newydd wrth ymddangos ar Introducing Glastonbury ar y BBC ac yn Stiwdios y BBC yn Maida Vale.

Mae’r lein-yp diweddara wedi miniogi eu ffocws a’u penderfyniad i sefydlu eu hunain ar flaen y sîn hip-hop ym Mhrydain. Ymhlith eu gigs sylweddol diweddara mae perfformio gyda pencampwyr hip-hop Los Angeles People Under the Stairs, mawrion jazz Oregon a Band Pres Youngblood.

Dan ddylanwad Fela Kuti, Snarky Puppy, Ozomatli, The Roots & Talking Heads ymhlith eraill, bydd hon yn noson arall wych – a thrawiadol! – ar lawr y ddawns.

DJ Support to be announced!

Archebwch ar-lein i sicrhau mynediad os gwelwch yn dda

Supported by Night Out