Datganiad i’r wasg
11/11/20
Dathliad o drychfilod a gomisiynwyd gan Venue Cymru ar gyfer croesawu selebs i dref Abergele. Wrth i gyffro’r jyngl gydio yn Abergele, mae paratoadau ar y gweill i groesawu enwogion y sioe ITV boblogaidd “I’m a Celebrity…Get me out of here.” Roedd Theatr Byd Bychan wrth eu bodd i dderbyn gwahoddiad i greu tri pryfetyn enfawr. “ Ro’dd hi’n anodd dod o hyd i ddeunyddiau yn ystod y clo bach,” meddai’r cyfarwyddwr artistig Bill Hamblett,”ond ry’n ni’n caru creu strwythurau enfawr allan o ddeunydd i’w ail-gylchu neu ei ail-bwrpasu’.
Mae Theatr Byd Bychan yn ystyried yr effaith ar yr amgylchedd wrth greu ei holl waith. Mae’n adnabyddus am fynd â’r anghenfil môr enfawr ‘Clean Seas Cragen’ i ŵyl LLAWN a Gŵyl Fwyd Biwmares yn 2018, gan gynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd a’r byd naturiol sy’n gartref i ni gyd.
“ Fe ddewison ni greu sioncyn y gwair, gwiddonyn y mes a chwilen gorniog am eu bod nhw i gyd yn bwysig i gadwraeth bioamrywiaeth gyfoethog yr ardal hon,” meddai’r artist Ann Shrosbree. “Gobeithio y byddan nhw’n llenwi’r dref â gwen.” Mae’r sioe eleni yn digwydd yng Nghastell Gwrych ger Abergele.
Cysylltu:
Ann Shrosbree #CelebrityBugs
info@smallworld.org.uk